Inner Development Guide — Cymraeg The official Welsh translation, by Inner Development Goals, released 2026-02-11. The Inner Development Guide is published by Inner Development Goals · innerdevelopmentgoals.org The guide's text is Inner Development Goals' and is shared under their licence: non-commercial, unmodified, with the attribution above (CC BY-NC-ND 4.0). idg.guide/terms This text: idg.guide/official/cy.txt · All translations: idg.guide/translations # Bod — Meithrin Ein Bywyd Mewnol Mae dyfnhau ein hymwybyddiaeth o brofiadau mewnol a'u perthynas ddeinamig â'r byd o'n cwmpas yn meithrin presenoldeb corfforol, rhoi eglurder inni o ran pwrpas, ac yn helpu ni i roi ymatebion ystyriol pan fyddwn yn wynebu cymhlethdod. ## B1 Cwmpas Mewnol Ymrwymiad dwfn i fyw a gweithredu yn unol â gwerthoedd a dibenion sy'n gwasanaethu lles y cyfan. ## B2 Uniondeb a Gwirionedd Ymrwymiad diffuant i onestrwydd a gwerthoedd cadarn, a hynny'n cael ei fynegi a'i ddangos drwy weithredoedd. ## B3 Agwedd Agored a Meddylfryd Dysgu Agwedd chwilfrydig a hyblyg sy'n cael ei mynegi drwy fod yn barod i rannu safbwyntiau, deall ein bregusrwydd, croesawu newid, a thyfu. ## B4 Hunan-ymwybyddiaeth Y gallu i fod mewn cyswllt meddyliol â'n hemosiynau, meddyliadau, dymuniadau a'n gweithredoedd; i gynnal hunanddelwedd realistig ac i reoli eich hun. ## B5 Presenoldeb Y gallu i fod yn bresennol yn y fan a'r lle, i dderbyn realiti fel y mae'n datblygu, ac ymateb mewn ffyrdd ystyrlon. # Meddwl — Deall Ein Byd Cymhleth Mae ehangu eglurder, ystyried safbwyntiau amrywiol, a dychmygu canlyniadau hirdymor yn ein helpu i lywio cymhlethdodau a gwneud penderfyniadau doethach yn ein byd cydgysylltiedig. ## T1 Meddwl Beirniadol Y gallu i fyfyrio ar ddilysrwydd syniadau, tystiolaeth, rhagdybiaethau a chynlluniau. ## T2 Sgiliau Safbwynt Y gallu i ddysgu o safbwyntiau amrywiol ac integreiddio mewnwelediadau i greu ystyr ac i weithredu. ## T3 Meddwl trwy Systemau Y gallu i ddeall cymhlethdodau a gweithio gyda chydgysylltiadau a priodweddau systemau. ## T4 Gweledigaeth a Chyfeiriadedd Hirdymor Dychmygu nodau hirdymor a chadw ymrwymiad iddynt mewn ffyrdd sy'n cefnogi lles cymdeithasol ac ecolegol ehangach. ## T5 Creadigrwydd Y gallu i feddwl y tu allan i batrymau confensiynol, dychmygu posibiliadau newydd, a'u siapio'n syniadau trawsnewidiol. # Perthnasu — Gofalu am Eraill a'r Byd Mae cysylltu â charedigrwydd, tosturi, ac ymdeimlad o berthynas â'n cymunedau, y blaned fyw, a chenedlaethau'r dyfodol yn ein helpu i greu byd mwy cyfiawn, cynhwysol, a ffyniannus. ## R1 Gwerthfawrogiad Perthyn i bobl a'r Ddaear gyda diolchgarwch, parch, a llawenydd. ## R2 Cysylltiad Teimlo ymdeimlad o berthyn i gyfanwaith mwy, er enghraifft, dynoliaeth, cylch bywyd, a dimensiynau ysbrydol bodolaeth. ## R3 Gostyngeiddrwydd Bod yn abl i ymateb i anghenion y sefyllfa heb boeni am eich pwysigrwydd chi eich hun. ## R4 Empathi a Thosturi Cysylltu ag eraill, â chi eich hun, a chyda natur gyda charedigrwydd, gofal a chariad, gyda'r bwriad o leihau dioddefaint. ## R5 Maddeuant Parodrwydd i oresgyn gelyniaeth, gweithio trwy drawma, a chreu lle i iacháu. # Cydweithio — Adeiladu Ymddiriedaeth a Gweithio Gyda'n Gilydd Mae datblygu perthnasoedd yn seiliedig ar ymddiriedaeth, cydnabod gwerthoedd, sgiliau a safbwyntiau amrywiol, a chreu mannau diogel, yn galluogi pawb i gyfrannu at ddibenion a rennir ac at effaith ar y cyd. ## C1 Sgiliau Adeiladu Perthynas Meithrin perthnasau gydag ymwybyddiaeth emosiynol wedi'i seilio ar ymddiriedaeth, parch, cyd-ddealltwriaeth, ac ysbryd cydweithredu. ## C2 Meddylfryd Cynhwysol a Chymhwysedd Rhyngddiwylliannol Parodrwydd a chymhwysedd i gofleidio amrywiaeth a chynnwys pobl a chymunedau â gwahanol safbwyntiau a chefndiroedd. ## C3 Sgiliau Cyd-greu Hwyluso prosesau cydweithredol gyda rhanddeiliaid amrywiol, meithrin gwaith tîm a diogelwch seicolegol, a bod yn ymwybodol o ddeinameg pŵer. ## C4 Sgiliau Cyfathrebu Y gallu i wrando'n ddwfn, meithrin deialog ddilys, hyrwyddo barn rhywun yn fedrus, rheoli gwrthdaro'n adeiladol ac addasu'r ffordd rydym yn cyfathrebu â grwpiau amrywiol. ## C5 Sgiliau Symud Ysbrydoli a galluogi eraill i ymgysylltu mewn dibenion a rennir a gweithredu ar y cyd. # Gweithredu — Arwain a Galluogi Newid Mae symud ymlaen gyda dewrder ac optimistiaeth, meithrin asiantaeth ar y cyd, a gweithredu gyda phwrpas a dyfalbarhad yn troi gweledigaethau yn newid ystyrlon mewn cyfnodau ansicr. ## A1 Dewrder Sefyll dros werthoedd sylfaenol, gwneud penderfyniadau, cymryd camau gweithredol, a phan fo angen, cwestiynu ac ymyrryd â strwythurau a safbwyntiau sefydledig. ## A2 Gobaith ac Optimistiaeth Meithrin a chredu yn ein gallu i greu dyfodol mwy cyfiawn, cynhwysol a chynaliadwy. ## A3 Defnydd Ymwybodol o Adnoddau Gweithredu gydag ymwybyddiaeth o adnoddau naturiol cyfyngedig y blaned, gan flaenoriaethu cadwraeth, adfywio a chynildeb er mwyn osgoi defnydd niweidiol. ## A4 Rhagweledigrwydd Ymarfer stiwardiaeth gyfrifol sy'n wynebu heriau brys, wedi'i seilio ar undod a pharch at urddas dynol a'r Ddaear fyw. ## A5 Gwydnwch Byw trwy adfyd gan ddal ati i ymgysylltu a dyfalbarhau hyd yn oed pan fo'r cynnydd yn araf neu'n ansicr.