← Back

The Inner Development Guide

25 skills · 5 dimensions

Bod

Meithrin Ein Bywyd Mewnol

Mae dyfnhau ein hymwybyddiaeth o brofiadau mewnol a'u perthynas ddeinamig â'r byd o'n cwmpas yn meithrin presenoldeb corfforol, rhoi eglurder inni o ran pwrpas, ac yn helpu ni i roi ymatebion ystyriol pan fyddwn yn wynebu cymhlethdod.

  1. B1 · Cwmpas Mewnol

    Ymrwymiad dwfn i fyw a gweithredu yn unol â gwerthoedd a dibenion sy'n gwasanaethu lles y cyfan.

  2. B2 · Uniondeb a Gwirionedd

    Ymrwymiad diffuant i onestrwydd a gwerthoedd cadarn, a hynny'n cael ei fynegi a'i ddangos drwy weithredoedd.

  3. B3 · Agwedd Agored a Meddylfryd Dysgu

    Agwedd chwilfrydig a hyblyg sy'n cael ei mynegi drwy fod yn barod i rannu safbwyntiau, deall ein bregusrwydd, croesawu newid, a thyfu.

  4. B4 · Hunan-ymwybyddiaeth

    Y gallu i fod mewn cyswllt meddyliol â'n hemosiynau, meddyliadau, dymuniadau a'n gweithredoedd; i gynnal hunanddelwedd realistig ac i reoli eich hun.

  5. B5 · Presenoldeb

    Y gallu i fod yn bresennol yn y fan a'r lle, i dderbyn realiti fel y mae'n datblygu, ac ymateb mewn ffyrdd ystyrlon.

Meddwl

Deall Ein Byd Cymhleth

Mae ehangu eglurder, ystyried safbwyntiau amrywiol, a dychmygu canlyniadau hirdymor yn ein helpu i lywio cymhlethdodau a gwneud penderfyniadau doethach yn ein byd cydgysylltiedig.

  1. T1 · Meddwl Beirniadol

    Y gallu i fyfyrio ar ddilysrwydd syniadau, tystiolaeth, rhagdybiaethau a chynlluniau.

  2. T2 · Sgiliau Safbwynt

    Y gallu i ddysgu o safbwyntiau amrywiol ac integreiddio mewnwelediadau i greu ystyr ac i weithredu.

  3. T3 · Meddwl trwy Systemau

    Y gallu i ddeall cymhlethdodau a gweithio gyda chydgysylltiadau a priodweddau systemau.

  4. T4 · Gweledigaeth a Chyfeiriadedd Hirdymor

    Dychmygu nodau hirdymor a chadw ymrwymiad iddynt mewn ffyrdd sy'n cefnogi lles cymdeithasol ac ecolegol ehangach.

  5. T5 · Creadigrwydd

    Y gallu i feddwl y tu allan i batrymau confensiynol, dychmygu posibiliadau newydd, a'u siapio'n syniadau trawsnewidiol.

Perthnasu

Gofalu am Eraill a'r Byd

Mae cysylltu â charedigrwydd, tosturi, ac ymdeimlad o berthynas â'n cymunedau, y blaned fyw, a chenedlaethau'r dyfodol yn ein helpu i greu byd mwy cyfiawn, cynhwysol, a ffyniannus.

  1. R1 · Gwerthfawrogiad

    Perthyn i bobl a'r Ddaear gyda diolchgarwch, parch, a llawenydd.

  2. R2 · Cysylltiad

    Teimlo ymdeimlad o berthyn i gyfanwaith mwy, er enghraifft, dynoliaeth, cylch bywyd, a dimensiynau ysbrydol bodolaeth.

  3. R3 · Gostyngeiddrwydd

    Bod yn abl i ymateb i anghenion y sefyllfa heb boeni am eich pwysigrwydd chi eich hun.

  4. R4 · Empathi a Thosturi

    Cysylltu ag eraill, â chi eich hun, a chyda natur gyda charedigrwydd, gofal a chariad, gyda'r bwriad o leihau dioddefaint.

  5. R5 · Maddeuant

    Parodrwydd i oresgyn gelyniaeth, gweithio trwy drawma, a chreu lle i iacháu.

Cydweithio

Adeiladu Ymddiriedaeth a Gweithio Gyda'n Gilydd

Mae datblygu perthnasoedd yn seiliedig ar ymddiriedaeth, cydnabod gwerthoedd, sgiliau a safbwyntiau amrywiol, a chreu mannau diogel, yn galluogi pawb i gyfrannu at ddibenion a rennir ac at effaith ar y cyd.

  1. C1 · Sgiliau Adeiladu Perthynas

    Meithrin perthnasau gydag ymwybyddiaeth emosiynol wedi'i seilio ar ymddiriedaeth, parch, cyd-ddealltwriaeth, ac ysbryd cydweithredu.

  2. C2 · Meddylfryd Cynhwysol a Chymhwysedd Rhyngddiwylliannol

    Parodrwydd a chymhwysedd i gofleidio amrywiaeth a chynnwys pobl a chymunedau â gwahanol safbwyntiau a chefndiroedd.

  3. C3 · Sgiliau Cyd-greu

    Hwyluso prosesau cydweithredol gyda rhanddeiliaid amrywiol, meithrin gwaith tîm a diogelwch seicolegol, a bod yn ymwybodol o ddeinameg pŵer.

  4. C4 · Sgiliau Cyfathrebu

    Y gallu i wrando'n ddwfn, meithrin deialog ddilys, hyrwyddo barn rhywun yn fedrus, rheoli gwrthdaro'n adeiladol ac addasu'r ffordd rydym yn cyfathrebu â grwpiau amrywiol.

  5. C5 · Sgiliau Symud

    Ysbrydoli a galluogi eraill i ymgysylltu mewn dibenion a rennir a gweithredu ar y cyd.

Gweithredu

Arwain a Galluogi Newid

Mae symud ymlaen gyda dewrder ac optimistiaeth, meithrin asiantaeth ar y cyd, a gweithredu gyda phwrpas a dyfalbarhad yn troi gweledigaethau yn newid ystyrlon mewn cyfnodau ansicr.

  1. A1 · Dewrder

    Sefyll dros werthoedd sylfaenol, gwneud penderfyniadau, cymryd camau gweithredol, a phan fo angen, cwestiynu ac ymyrryd â strwythurau a safbwyntiau sefydledig.

  2. A2 · Gobaith ac Optimistiaeth

    Meithrin a chredu yn ein gallu i greu dyfodol mwy cyfiawn, cynhwysol a chynaliadwy.

  3. A3 · Defnydd Ymwybodol o Adnoddau

    Gweithredu gydag ymwybyddiaeth o adnoddau naturiol cyfyngedig y blaned, gan flaenoriaethu cadwraeth, adfywio a chynildeb er mwyn osgoi defnydd niweidiol.

  4. A4 · Rhagweledigrwydd

    Ymarfer stiwardiaeth gyfrifol sy'n wynebu heriau brys, wedi'i seilio ar undod a pharch at urddas dynol a'r Ddaear fyw.

  5. A5 · Gwydnwch

    Byw trwy adfyd gan ddal ati i ymgysylltu a dyfalbarhau hyd yn oed pan fo'r cynnydd yn araf neu'n ansicr.

Every word above is the Inner Development Goals' own — nothing paraphrased, nothing added.

Try the prototype → Download the guide →